Comisiwn y Cynulliad |
Lleoliad: |
Ystafell Gynhadledd 4B - Tŷ Hywel |
|
|
|||
Dyddiad: |
Dydd Iau, 16 Mehefin 2016 |
|
||||
Amser: |
09.00 - 10.30 |
|
||||
|
||||||
|
||||||
Cofnodion: AC(5)2016(1) |
||||||
|
|
|
||||
Aelodau’r Comisiwn: |
|
Elin Jones AC (Cadeirydd) Suzy Davies AC Caroline Jones AC Dai Lloyd AC Joyce Watson AC |
||||
|
|
|||||
|
|
|
||||
Swyddogion yn bresennol: |
|
Claire Clancy, Prif Weithredwr a Chlerc Craig Stephenson, Cyfarwyddwr Dros Dro Gwasanaethau’r Comisiwn Gwion Evans, Head of Presiding Officer's Private Office
|
||||
|
|
|||||
|
|
|
||||
Eraill yn bresennol: |
|
|
||||
|
|
|||||
1 Cyflwyniad
1.1 Cyflwyniad ac ymddiheuriadau
Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau.
1.2 Datgan Buddiannau
Ni chafwyd datganiadau o fuddiant.
2 Trefn lywodraethu a gweithdrefnau Comisiwn y Cynulliad
Bu Comisiynwyr yn trafod dogfennau sy’n nodi’r egwyddorion fframwaith cyffredinol ar gyfer llywodraethu’r sefydliad, y rheolau ar gyfer cynnal cyfarfodydd y Comisiwn a dirprwyo swyddogaethau i'r Prif Weithredwr.
Cytunodd y Comisiwn ar yr Egwyddorion Llywodraethu a’r Darpariaethau Ategol a ddiweddarwyd. Fe’u datblygwyd yn unol â’r Cod Arferion Da ar gyfer Llywodraethu Corfforaethol a gyhoeddwyd gan Drysorlys Ei Mawrhydi a Chod Llywodraethu Corfforaethol y DU y Cyngor Adrodd am Faterion Ariannol, gan ystyried statws y Comisiwn fel corff corfforaethol sydd â “bwrdd llywodraethu” sy’n cynnwys Aelodau etholedig yn gyfan gwbl.
Cafodd y rheolau ar gyfer cynnal busnes y Comisiwn eu mabwysiadu’n ffurfiol gan Gomisiwn y Cynulliad.
Bu’r Comisiynwyr yn trafod offerynnau drafft dirprwyo swyddogaethau’r Comisiwn a’r trefniadau i weithredu swyddogaethau'r Clerc. Rhoesant ystyriaeth arbennig i'r lefel briodol awdurdodedig ar gyfer gwariant cyfalaf, ac ar ôl gofyn am sicrwydd y bydd y manylion am wariant sylweddol yn parhau i gael eu nodi fel rhan o broses y gyllideb, cytunwyd ar ffigur o £ 5 miliwn ar gyfer prosiectau neu gontractau. Mae hyn yn adlewyrchu'r newid yn lefel dirprwyaethau dros y 10 mlynedd diwethaf, ac mae’n cyd-fynd â'r ddirprwyaeth yng nghyrff seneddol yr Alban a Gogledd Iwerddon.
Cytunodd y Comisiwn y dylid cyhoeddi cynnwys y papur.
3 Portffolios Comisiwn y Cynulliad
Mae gan y Comisiwn gyfrifoldeb corfforaethol am arfer y swyddogaethau a roddwyd iddo ac am lywodraethu'r sefydliad.
Bu’r Comisiynwyr yn trafod yr egwyddorion llywodraethu sy’n darparu y gall y Comisiwn ddyrannu cyfrifoldeb am oruchwylio ystod ddiffiniedig o waith sefydliadol i Gomisiynydd unigol. Daethant i’r casgliad y byddai creu portffolios Comisiynwyr yn rhoi cyfle i bob Comisiynydd gynyddu ei wybodaeth mewn meysydd penodol ac i weithio gyda swyddogion i ddarparu cyfeiriad strategol ar sail fwy rheolaidd a thrylwyr nag y byddai cyfarfodydd y Comisiwn yn unig yn ei ganiatáu.
Cytunwyd ar y portffolios a ganlyn:
Cyfathrebu ac ymgysylltu |
Elin Jones AC, Llywydd |
Y gyllideb a llywodraethu, gan gynnwys bod yn aelod o’r Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg. |
Suzy Davies AC |
Cydraddoldeb, a'r Comisiwn fel cyflogwr staff y Cynulliad. |
Joyce Watson AC |
Ieithoedd Swyddogol, a darparu a thrawsnewid gwasanaethau i Aelodau. |
Dai Lloyd AC |
Diogelwch ac adnoddau'r Cynulliad. |
Caroline Jones AC |
4 Cynllun Pensiwn Aelodau'r Cynulliad - Cynrychiolwyr y Bwrdd
Y Bwrdd Taliadau sy’n gyfrifol am Gynllun Pensiwn yr Aelodau a chyflwynodd gynllun newydd o fis Mai 2016. Ym mis Tachwedd 2015, cytunodd y Comisiynydd mai'r Swyddog Cyfrifyddu, mewn ymgynghoriad â'r Comisiynwyr, ddylai fod yn gyfrifol am nodi ac enwebu cynrychiolwyr y Comisiwn i'r Bwrdd Pensiynau newydd.
Ystyriodd y Comisiynwyr argymhellion y Swyddog Cyfrifyddu ar gyfer cynrychiolwyr y Comisiwn a chytunwyd mai’r Cyfarwyddwr Cyllid a Suzy Davies AC y dylent fod.
Aelodau eraill y Bwrdd fydd Jill Youds, a benodwyd yn Gadeirydd Annibynnol yr Ymddiriedolwyr, Mike Hedges (AC presennol, Llafur) a Gareth Jones (cyn Aelod Cynulliad, Plaid Cymru).
5 Adroddiad etifeddiaeth Comisiwn y Cynulliad
Roedd adroddiad etifeddiaeth Comisiwn y Cynulliad ar gyfer 2011-16 wedi cael ei gytuno a'i gyhoeddi yn gynharach eleni. Nododd y Comisiynwyr yr adroddiad, gan gytuno y byddai'n fan cychwyn defnyddiol ar gyfer eu hystyriaethau hwy, yn enwedig mewn perthynas â datblygu Strategaeth y Comisiwn.
6 Unrhyw fater arall
Ni chodwyd unrhyw fater arall.